Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Awst 2020
Amser:
10.00 -
10.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6434
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) David Melding AS (yn lle Suzy Davies AS) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Cafwyd ymddiheuriad gan Suzy Davies AS. Roedd David Melding AS yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 SL(5)241 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020
Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL (5) 574 – Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Asesu Cymesuredd Proffesiynau Rheoleiddiedig) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd, ac i dynnu sylw at oblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.2 SL(5)556 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(5)556 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.4 SL(5)588 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.5 SL(5)580 – Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.6 SL(5)582 – Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.7 SL(5)585 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.8 SL(5)581 – Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.9 SL(5)579 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)(Cymru) (Rhif 2) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.10SL(5)540 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.11SL(5)587 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.12SL(5)586 – Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(5)565 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
5.1 WS-30C(5)164 – Rheoliadau Darpariaethau Cyffredin a Rheolau Darpariaethau Cyffredin y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd etc. (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Dirymu) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
5.2 WS-30C(5)165 – Rheoliadau Cerbydau Cludiant Ffyrdd Glanach (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth ac, mewn sesiwn breifat, cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ofyn am eglurhad pellach ar effaith y Rheoliadau.
6 Papurau i’w nodi:
6.1 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
6.2 Llythyr gan y Gweinidog Addysg: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion y Cwricwlwm yng Nghymru 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Addysg.
6.3 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
6.4 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.
6.5 Llythyr gan y Prif Weinidog: Data ar fynediad at gyfiawnder
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Ystyriaeth o Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y farchnad fewnol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y farchnad fewnol, a thrafodwyd materion i'w cynnwys yn ei ymateb i Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod nesaf.
O dan Reol Sefydlog 17.22, cytunodd yr Aelodau i benodi Carwyn Jones AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 24 Awst 2020, yn amodol ar gael ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AS.